News Archive

13.11.25

First UK SMRs to be sited at Wylfa

Speaking following the Wylfa SMR siting announcement on 13 November 2025, President of the Nuclear Institute Professor Fiona Rayment OBE FREng FRSE FNucI said:  

“We are pleased to see timely progress following the small modular reactor competition. Choosing Wylfa as the first site for SMR deployment is a positive step in building momentum to create new nuclear capacity across the UK. 

“But it is only a step. The backdrop of global political challenges and the impacts of climate change mean nuclear power has never been more vital. 

“Whilst larger reactors provide nuclear energy on a gigawatt scale, their colossal scale means they are limited in terms of where they can be sited. SMRs use modular, off-site manufacturing and can be situated much more flexibly, in many more locations. The two types of power station in tandem will help to enhance energy security through readily available fuel supplies and UK-based infrastructure – crucial in meeting the country’s long-term energy needs.  

“Beyond energy production, the sector has a significant economic impact across the UK. The nuclear workforce in Wales stands at around 1,000, a 17% increase from 2024, and siting an SMR in Anglesey will only build on this further, creating more skilled jobs and offering an economic boost.  

“As the professional membership body dedicated to nuclear, we stand ready to support our members in ensuring these projects are delivered efficiently and effectively and we look forward to seeing the UK deliver a cleaner, more secure energy landscape for generations to come.” 

Sasha Wynn Davies, Nuclear Institute Trustee and Wales Nuclear Forum Chair added:  

It is fantastic to, once again, have a new nuclear build project announced for Wylfa, Anglesey. This time the project must be delivered to create long term, quality jobs in the local and wider area, working with the local community and securing many hundreds of jobs into the local, Wales and wider UK supply chain”. 

For more information and interview opportunities, please contact Ben Lowndes on 07387 140782 or ben.lowndes@distinctivecomms.co.uk

 

Image shows Outfall from Wylfa Power Station. Image credit: geograph.org.uk

Yn dilyn y cyhoeddiad ar 13 Tachwedd 2025 ynghylch lleoli safle SMR Wylfa, dywedodd Llywydd y Sefydliad Niwclear, yr Athro Fiona Rayment OBE FREng FRSE FNucI:

“Rydym yn croesawu’r cynnydd amserol sy’n dilyn y gystadleuaeth ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach. Mae dewis Wylfa fel y safle cyntaf ar gyfer datblygu SMR yn gam cadarnhaol tuag at adeiladu momentwm i greu capasiti niwclear newydd ledled y Deyrnas Unedig.

“Fodd bynnag, dim ond cam yw hwn. O ystyried cefndir yr heriau gwleidyddol byd-eang a’r effeithiau cynyddol o newid yn yr hinsawdd, nid yw pŵer niwclear erioed wedi bod mor hanfodol.

“Er bod adweithyddion mwy yn darparu ynni niwclear ar raddfa gigawat, mae eu maint sylweddol yn cyfyngu ar y lleoliadau posibl. Mae adweithyddion modiwlaidd bach yn defnyddio gweithgynhyrchu modiwlaidd oddi ar y safle ac felly’n cynnig hyblygrwydd llawer mwy o ran lleoliad, mewn nifer helaethach o safleoedd. Bydd y ddau fath o orsaf bŵer, yn gweithio law yn llaw, yn cyfrannu at wella diogelwch ynni drwy gyflenwadau tanwydd ar gael yn rhwydd ac isadeiledd sy’n seiliedig yn y DU –elfennau hollbwysig i ddiwallu anghenion ynni hirdymor y wlad.

“Y tu hwnt i gynhyrchu ynni, mae gan y sector effaith economaidd sylweddol ledled y DU. Mae gweithlu’r diwydiant niwclear yng Nghymru bellach yn sefyll ar tua 1,000, cynnydd o 17% ers 2024, ac mae lleoli SMR ar Ynys Môn yn debygol o gryfhau’r sefyllfa ymhellach, gan greu mwy o swyddi sgiliedig a chynnig hwb economaidd ychwanegol.

“Fel y corff aelodaeth broffesiynol sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’r diwydiant niwclear, rydym yn barod i gefnogi ein haelodau wrth sicrhau bod y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol. Edrychwn ymlaen at weld y Deyrnas Unedig yn cyflawni tirwedd ynni lanach ac yn fwy diogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Sasha Wynn Davies, Ymddiriedolwr y Sefydliad Niwclear ac yn Gadeirydd Fforwm Niwclear Cymru:

“Mae’n newyddion rhagorol cael cyhoeddi prosiect adeiladu niwclear newydd unwaith eto ar gyfer Wylfa, Ynys Môn. Y tro hwn, rhaid sicrhau bod y prosiect yn cael ei wireddu’n llawn, er mwyn creu swyddi o ansawdd uchel, tymor hir yn yr ardal leol ac yn ehangach. Dylid gweithio’n agos gyda’r gymuned leol a sicrhau cannoedd o swyddi o fewn y gadwyn gyflenwi leol, Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.”

Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd cyfweld, cysylltwch â: Arianne Smart Ben Lowndes ar 07387 140782 neu ben.lowndes@distinctivecomms.co.uk